2014 Rhif 1249 (Cy. 130)

Addysg, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Hysbysu am Ddyddiadau Tymhorau Ysgol) (Cymru) 2014

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mewnosodwyd adran 32A i Ddeddf Addysg 2002 gan adran 42 o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014. Mae adran 32A(3) i (4) o Ddeddf 2002 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ysgolion sefydledig ac ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir gydweithredu a chydgysylltu â’i gilydd er mwyn sicrhau bod dyddiadau tymhorau ysgol yr un fath (neu mor debyg ag y gallant fod).

Mae adran 32A(5) yn darparu ymhellach fod rhaid i awdurdodau lleol hysbysu Gweinidogion Cymru am y dyddiadau tymhorau ysgol y penderfynwyd arnynt. Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu bod rhaid anfon yr hysbysiad o leiaf ddwy flwyddyn ysgol ymlaen llaw. Felly, ar gyfer y flwyddyn ysgol 2016/2017 y mae’r dyddiadau tymhorau cyntaf y mae awdurdodau lleol wedi penderfynu arnynt ac y mae rhaid iddynt hysbysu Gweinidogion Cymru amdanynt. Mae adran 32A(6) yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru ragnodi ffurf a chynnwys yr hysbysiadau, y cyfnod y mae rhaid rhoi hysbysiad ynddo a’r weithdrefn ar gyfer rhoi hysbysiad. Yn unol â hynny, mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â’r materion hynny.

 

 

 


2014 Rhif 1249 (Cy. 130)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Addysg (Hysbysu am Ddyddiadau Tymhorau Ysgol) (Cymru) 2014

Gwnaed                                    12 Mai 2014

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       15 Mai 2014

Yn dod i rym                    15 Gorffennaf 2014

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 32A a 210 o Ddeddf Addysg 2002([1]), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Hysbysu am Ddyddiadau Tymhorau Ysgol) (Cymru) 2014 a deuant i rym ar 15 Gorffennaf 2014.

(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2. Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002;

ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw unrhyw ddiwrnod ac eithrio dydd Sadwrn, dydd Sul, dydd Nadolig, dydd Gwener y Groglith neu ddiwrnod sy’n ŵyl banc at ddibenion paragraff 1 o Atodlen 1 i Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971([2]);

ystyr “hysbysiad cyflawn” (“complete notice”) yw hysbysiad sy’n nodi’r holl ddyddiadau tymhorau y penderfynwyd arnynt ar gyfer pob ysgol yn ei ardal ac a anfonwyd at Weinidogion Cymru gan awdurdod lleol yn unol â’i ddyletswydd yn adran 32A(5) o Ddeddf 2002;

ystyr “hysbysiad rhannol” (“partial notice”) yw hysbysiad sy’n nodi’r dyddiadau tymhorau y penderfynwyd arnynt ar gyfer rhai ysgolion yn ei ardal ond nid pob un ohonynt ac a anfonwyd at Weinidogion Cymru gan awdurdod lleol yn unol â’i ddyletswydd yn adran 32A(5) o Ddeddf 2002.

Ffurf a chynnwys yr hysbysiadau

3.(1)(1) Rhaid i bob hysbysiad cyflawn a phob hysbysiad rhannol gynnwys yr wybodaeth a rhaid iddynt fod ar y ffurf a nodir yn yr Atodlen.

(2) Caiff hysbysiad cyflawn neu hysbysiad rhannol gael ei gwblhau a’i anfon yn electronig.

Y cyfnod y mae rhaid rhoi hysbysiad ynddo

4. Rhaid i awdurdod lleol hysbysu Gweinidogion Cymru am yr holl ddyddiadau tymhorau y penderfynwyd arnynt ar gyfer yr ysgolion a gynhelir yn ei ardal heb fod yn hwyrach na’r diwrnod gwaith olaf ym mis Awst yn y flwyddyn sydd ddwy flynedd yn union cyn dechrau’r flwyddyn ysgol gyntaf y penderfynwyd ar y dyddiadau tymhorau ar ei chyfer.

 

 

 

 

 

Huw Lewis

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

 

12 Mai 2014

YR ATODLEN

Rheoliad 3

Ffurf yr hysbysiad

 

Caiff yr hysbysiad hwn gael ei gwblhau yn Gymraeg neu yn Saesneg, neu yn rhannol yn Gymraeg ac yn rhannol yn Saesneg

This notice may be completed in the Welsh or the English language, or partly in Welsh and partly in English

Hysbysiad rhif [mewnosodwch rif yr hysbysiad mewn trefn] o [mewnosodwch sawl hysbysiad rhannol a fydd yn cael eu hanfon([3])] yw hwn.

Hysbysiad am ddyddiadau tymhorau ysgol y penderfynwyd arnynt yn unol ag adran 32A o Ddeddf Addysg 2002

Mae [mewnosodwch enw’r awdurdod lleol sy’n anfon yr hysbysiad] yn rhoi hysbysiad y bydd gan yr ysgolion a nodir ym mharagraff 1 isod y dyddiadau tymhorau a nodir ym mharagraff 2 isod ar gyfer y flwyddyn ysgol [mewnosodwch y flwyddyn ysgol] i [mewnosodwch y flwyddyn ysgol([4])].

1. [Isod, mewnosodwch enwau’r ysgolion y mae’r hysbysiad hwn yn gymwys iddynt]

2. [Isod, mewnosodwch y dyddiadau tymhorau ysgol y penderfynwyd arnynt ar gyfer yr ysgolion uchod]

Dechrau tymor yr hydref:

Dechrau hanner tymor yr hydref:

Diwedd hanner tymor yr hydref:

Diwedd tymor yr hydref:

Dechrau tymor y gwanwyn:

Dechrau hanner tymor y gwanwyn:

Diwedd hanner tymor y gwanwyn:

Diwedd tymor y gwanwyn:

Dechrau tymor yr haf:

Dechrau hanner tymor yr haf:

Diwedd hanner tymor yr haf:

Diwedd tymor yr haf:

Llofnodwyd: [rhaid i’r prif swyddog addysg ar gyfer yr awdurdod lleol sy’n anfon yr hysbysiad lofnodi’r hysbysiad hwn([5])]

Printiwch neu teipiwch eich enw: [printiwch eich enw yma]

Dyddiad: [mewnosodwch y dyddiad yma]

Llofnodwyd: [rhaid i gadeirydd neu is-gadeirydd corff llywodraethu unrhyw ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu ysgol sefydledig y mae hysbysiad am ddyddiadau tymhorau ysgol yn cael ei roi ar ei chyfer lofnodi’r hysbysiad hwn([6])([7])]

Printiwch neu teipiwch eich enw: [printiwch eich enw yma]

Enw’r ysgol: [mewnosodwch enw’r ysgol yma]

Dyddiad: [mewnosodwch y dyddiad yma]

 

 



([1])           2002 p. 32. Mewnosodwyd adran 32A gan adran 42 o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014 (dccc 5). Diwygiwyd adran 210(7) gan adran 21(3)(c)(i) a (ii) o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 (mccc 2). Trosglwyddwyd swyddogaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 210 i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

([2])           1971 p. 80.

([3])           Er enghraifft, “Hysbysiad rhif 1 o 6 yw hwn”.

 

([4])           Er enghraifft, “2016 i 2017”.

([5])           Mae llofnod electronig yn dderbyniol.

([6])           Mae llofnod electronig yn dderbyniol.

([7])           Rhaid i’r bloc llofnod a gwybodaeth hwn gael ei gwblhau gan lofnodydd ar gyfer pob ysgol wirfoddol a gynorthwyir ac ysgol sefydledig y mae’r hysbysiad hwn yn gymwys iddynt.